Betty RiceDAVIESDAVIES - BETTY RICE, . 22ain. o Fai. 2020. Yn dawel yn Ysbyty Alltwen o 8 Llwyn y Ne, Clynnog Fawr, ac yn ddiweddar o Gartref Plas y Don, Pwllheli, yn 85 mlwydd oed. Gwraig ffyddlon y diweddar Elfed, chwaer annwyl y diweddar Gruffydd John, Eleanor, Wil, Sam, Dafydd, Sarah, Laura ac Edwyn a modryb hoff i'w holl nithoedd a'i neiaint. I gydfynd a'r canllawiau presennol bydd yr angladd yn breifat i'r teulu yn unig ym Mynwent Capel Uchaf ddydd Sadwrn, 30ain. o Fai. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ymchwil Cancr drwy law'r Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365.
Keep me informed of updates